top of page

Encil Ioga Arfordirol gyda

Helen a Jess

​

Nant Gwrtheyrn, Gwynedd, Cymru
20fed – 22ain Mawrth 2026
Cyhydnos y Gwanwyn

 

Croeso i’ch encil ioga Goleuni Cyntaf: Cyhydnos y Gwanwyn yn Nant Gwrtheryn — pentref Fictoraidd cuddiedig sy’n nythu’n ddwfn

Croeso i’ch encil ioga Goleuni Cyntaf: Cyhydnos y Gwanwyn yn Nant Gwrtheryn — pentref Fictoraidd cuddiedig sy’n nythu’n ddwfn ar arfordir gogleddol Penrhyn LlÅ·n. Lleoliad gwirioneddol hudolus yn edrych dros Fae Porthdinllaen, mae’r hen bentref chwarel yn cynnig cartref perffaith ar gyfer dathlu Cyhydnos y Gwanwyn ac ymgolli mewn encil sy’n goleuo’r enaid.

Am y penwythnos, daw’r Nant yn gartref i chi: man o ymlacio sydd â chysylltiad dwfn â threftadaeth Cymru.

ar arfordir gogleddol Penrhyn LlÅ·n. Lleoliad gwirioneddol hudolus yn edrych dros Fae Porthdinllaen, mae’r hen bentref chwarel yn cynnig cartref perffaith ar gyfer dathlu Cyhydnos y Gwanwyn ac ymgolli mewn encil sy’n goleuo’r enaid.

Am y penwythnos, daw’r Nant yn gartref i chi: man o ymlacio sydd â chysylltiad dwfn â threftadaeth Cymru.

Croeso i’ch encil ioga Goleuni Cyntaf: Cyhydnos y Gwanwyn yn Nant Gwrtheryn — pentref Fictoraidd cuddiedig sy’n nythu’n ddwfn ar arfordir gogleddol Penrhyn LlÅ·n. Lleoliad gwirioneddol hudolus yn edrych dros Fae Porthdinllaen, mae’r hen bentref chwarel yn cynnig cartref perffaith ar gyfer dathlu Cyhydnos y Gwanwyn ac ymgolli mewn encil sy’n goleuo’r enaid.

Am y penwythnos, daw’r Nant yn gartref i chi: man o ymlacio sydd â chysylltiad dwfn â threftadaeth Cymru.

Encil Ioga Arfordirol Gyda Helen a Jess

View Nant.jpg

Pam ymuno â ni ym mis Mawrth?
​
​​​TMae’r encil hwn yn cyd-fynd â Chyhydnos y Gwanwyn, sy’n digwydd am 2.46yh ar y 20fed o Fawrth, 2026. Dyma ddiwrnod sy’n nodi dechrau’r gwanwyn - tymor adfywio, twf ac aileni. Mae’r encil hwn yn cynnig cyfle i deimlo egni tymor y Gwanwyn yn saethu i’r wyneb a bywyd newydd yn blaguro ym mhobman.

Drwy’r Drws Hudolus

Wrth gyrraedd brig y Nant, mae ei swyn yn eich dal ar unwaith. Wrth i chi ddilyn y ffordd serth a throellog i lawr i’r cwm dramatig, caeedig, mae rhyfeddod y lle yn agor o’ch blaen.

Yn y pentref chwarel, yng nghanol awel hallt yr arfordir, bydd Helen a Jess yno i’ch croesawu. O’r cam cyntaf, bydd natur, treftadaeth a goleuni’n dechrau lapio o’ch cwmpas.

Mae’r Ganolfan Dreftadaeth yn llawn straeon: hanes y chwarel, esblygiad y safle hyd heddiw, a hanes cyfoethog yr iaith Gymraeg.

Mae’r ystafelloedd en-suite, wedi eu creu’n unigryw oddi mewn i hen dai’r chwarelwyr, â naws gynnes sy’n cofleidio diwylliant Cymru. O’ch drws, mae llwybrau a chlogwyni arfordirol ychydig gamau i ffwrdd.

Mae llwybrau’r Nant yn llifo’r holl ffordd i lawr tuag at ei filltir o draeth preifat — man lle mae’r gwanwyn yn codi ei ben ac yn teimlo’n fyw, ac mae rhwydwaith o lwybrau’n eich arwain o gwmpas y dyffryn.

Wrth ymgartrefu yn eich lloches o orffwys ysgogol, bydd tawelwch a chysur yn dechrau dyfnhau’r maeth, y cysylltiad elfennol, y defodau a’r egni sy’n codi yn eich Encil Gwanwyn.

nant Gwrtheryn 3.jpg

DDychwelyd i Gyfanrwydd

Am 2.46yh ar ddydd Gwener y 20fed o Fawrth, byddwn yn nodi Cyhydnos y Gwanwyn (Equinox)  — y foment nodedig pan fo dydd a nos mewn cydbwysedd perffaith.

Yn ystod eich encil, byddwch yn cael eich tywys drwy sesiynau bore a nos o Ioga wedi’u gwreiddio yn nhraddodiad Sattva Hatha, ochr yn ochr ag Embodied Flow a Somatic Movement, i’ch helpu i gyrraedd cartref eich corff yn llawn.

Yn ychwanegol, cewch eich arwain drwy Ioga Nidra, Yin, Myfyrdod, Gwaith Anadl, Chanting, Kriyas a seremoni dân. Bydd pob noson yn dod i ben gydag ymarfer tawelu, gyda’r opsiwn o Gacáo Seremonïol.

Bydd cerdded ar yr arfordir ac ambell dro tawel ar y traeth yn dyfnhau ein myfyrdod a’n cysylltiad gyda natur.

Byddwch hefyd yn cael gwers Gymraeg fer i anrhydeddu pwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol y safle unigryw hwn.

Yn y nosweithiau, byddwn yn ymgynnull mewn Satsang — gofod i wrando a myfyrio. Yn raddol, bydd ein Sangha — ein cymuned ysbrydol — yn dyfnhau.

Mae pob ymarfer yn ddewisol. Er ein bod yn eich annog yn dyner i ymuno er mwyn derbyn y profiad llawn, nid oes dim yn orfodol. Eich amser chi yw hwn - eich lle, eich encil.

Meditation_edited.jpg

Blas

Wedi ei wreiddio mewn lles, mae pob pryd wedi ei drefnu yn ofalus i chi.

Dros y penwythnos, byddwch yn mwynhau brecwastau llawn maeth, ciniawau tymhorol a swperau iachusol hyfryd.

Prydau sy’n anrhydeddu’r tymor wrth inni gamu i olau cynnil y gwanwyn — amser i ddod ynghyd, rhannu, ac adlewyrchu ar yr hyn a fu yn ystod y dydd.

Lle o Harddwch — Yn Eiddo i Chi

Yn ystod eich amser rhydd, mae gwesteion yn cael eu hannog i grwydro neu i ymlacio. Dyma ofod lle gall "gwneud llai" ddod yn llwybr i "dderbyn mwy".

Rydym yn eich annog i ymddieithrio o dechnoleg er mwyn ailgysylltu — gyda chi eich hun, gyda phobl eraill a gyda’r byd naturiol sydd o’ch cwmpas.

Opsiynau’n cynnwys:

  • Ymgolli yn yr arddangosfa sy’n adrodd hanes anhygoel Port y Nant, y Ganolfan Iaith Gymraeg a hanes yr iaith.

  • Teithio’n ôl mewn amser i DÅ·’r Chwarelwr — mae’r tÅ· a’i holl gynnwys yn adlewyrchiad o fywyd chwarelwr a’i deulu yn 1910.

  • Myfyrdod tawel o fewn y cerflun Tu Hwnt, gan deimlo’r berthynas rhwng unigolion a’r tirwedd.

  • Dewch a phâr o esgidiau cerdded da a cherddwch lwybrau’r dyffryn a’r arfordir.

  • Beth am fentro i’r môr? Dewch â’ch gwisg nofio ac ymdrochi ym Môr Iwerddon.

  • Myfyrio, ysgrifennu neu eistedd mewn llonyddwch ym mhentref y Nant, ar dywod Bae Porthdinllaen neu yn y coetir cyfagos.  Cysgwch heb deimlo’n euog gan ildio i rythm corfforol naturiol y gwanwyn.

  • Sgyrsiau agored gyda gwesteion eraill.

  • Arsylwi, braslunio neu dynnu lluniau o’r tirwedd dramatig.

  • Dim ond bodoli — dim angen llenwi amser, dim ond ei anrhydeddu’n llawn.

Gorffwys Uwch

Mae pob gwestai’n cael ei groesawu i’w ofod ein hun

  • Ystafelloedd preifat, wedi eu dodrefnu’n unigryw a chyfforddus.

  • Dim ystafelloedd a rennir, dim angen cyfaddawdu, gall pob unigolyn gael llonydd ar eu pennau eu hunain yn ôl y gofyn.

  • Ystafelloedd aros gydag ystafell ymolchi en-suite.

  • Dillad gwely ffres a dŵfes dwfn ar gyfer cwsg braf a thawel.

  • Ystafelloedd tawel a chyfforddus sy’n annog noson faethlon o gwsg.

  • Golygfeydd dros y Nant, y mynyddoedd a’r môr.

  • Sŵn y tonnau’n eich deffro, sêr disglair i’w gweld yn glir ar noson braf.

  • Tawelwch, awel hallt a gofod agored sy’n dod â llonyddwch uniongyrchol.

Dewch i gwrdd â’ch Tiwtoriaid

Mae’r encil hwn yn cael ei arwain yn ofalus gan Helen a Jess — dau diwtor sy’n dod â doethineb ymarferol a phresenoldeb dwfn i’w haddysgu. Mae eu dull yn ddeallus ac yn reddfol, wedi’i wreiddio mewn traddodiadau hynafol.

​​

Helen Kay

dscf2177-16494257_edited.png

Gyda thri degawd o brofiad yn y celfyddydau perfformio, mae Helen yn dod â mewnwelediad corfforol prin i’w hymarfer ioga. Dechreuodd ei thaith gyda Ashtanga, Iyengar a Vinyasa, ond Ioga Sattva — y daeth hi ar ei draws wrth wella o anaf difrifol a newidiodd ei bywyd — ddaeth yn angor iddi a’i harwain yn y pendraw at addysgu.

Mae Helen wedi astudio o dan Anand Mehrotra a thiwtoriaid meistr Sattva Yoga Academy yn Rishikesh, India, a gyda Jeff Lester yn Llundain. Mae’n ymgolli mewn doethineb Himalaya, kriya a symudiad a arweinir gan anadlu. Mae ei haddysgu’n reddfol ac yn bwerus — yn llawn dyfnder ond yn gynnes ac yn agored i bawb.

I Helen, nid perfformiad yw ioga — ond dychwelyd: at y tawelwch, at lonyddwch, at eich calon, at eich tarddiad.

​Jess Mysko

Jess_edited.jpg

Gyda dros ddegawd o addysgu rhyngwladol mae Jess yn cyfuno traddodiadau hynafol â gwyddoniaeth somatig gyfoes. Cafodd ei hyfforddi gyntaf yn India, ac yna yn Seland Newydd, Awstralia a’r DU.  Mae ei chymwysterau yn cynnwys hyfforddiant Embodied Flow™ yn ogystal ag astudio Somatic Breathwork and Movement for Trauma gyda The Embody Lab.

Ar hyn o bryd mae yn ei blwyddyn olaf o astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Manceinion, ac mae hi wedi ymrwymo i ddeall y cysylltiad dwfn rhwng y meddwl a’r corff dynol.  Mae ei dosbarthiadau’n cael eu cyfarwyddo gan athroniaeth non-dual Tantra, mytholeg ioga a’r benywaidd sanctaidd (sacred feminie), ac yn aml yn plethu pŵer archetypaidd duwiesau ac adrodd straeon hynafol fel offer ar gyfer trawsnewidiad personol.

Mae Jess yn gwahodd myfyrwyr i ganfod perthynas ddyfnach gyda’u hathro mewnol eu hunain.  Ymhlith ei hathrawon hi mae Scott Lyons, Adele Kinghan, Tymi Howard, Tara Judelle a Sally Kempton.

Nant Gwrtheryn 4.jpg

​

Buddsoddiad ac Archebu

Mae'r encil hwn yn fuddsoddiad mewn cyd-fynd â'r newid o'r gaeaf i'r gwanwyn, presenoldeb, a hunangariad, a gynhelir mewn lleoliad lle mae pob manylyn yn cefnogi'r profiad. Er mwyn ei wneud yn hygyrch wrth adlewyrchu ei wir werth, rydym yn cynnig cyfraddau cynnar ac opsiynau talu hyblyg.

Cyfradd Gynnar - dan Chwefror y 1af, 2026

  • Ystafell Breifat (Un Person): £595

  • Ystafell Breifat (Dau Berson): £1138

Pris Llawn

  • Ystafell Breifat (Un Person): £695

  • Ystafell Breifat (Dau Berson): £1338

Blaendal o £150 nad oes modd ei ad-dalu er mwyn cadw lle.


* Opsiynau talu ar gael *

Mae’n gyfle arbennig i fwynhau preifatrwydd a chysur mewn ystafell hanesyddol en-suite, ynghyd â rhaglen encil lawn a phrydau iachusol dros dri diwrnod.

Nid yw’r pris yn cynnwys:

  • Teithio; argymhellir yswiriant teithio.

  • Diod nad yw’n rhan o’r pecyn, gan gynnwys alcohol.

  • Matiau ioga, blancedi ac offer.

I gadw lle, cysylltwch â ni drwy’r botwm isod.

​​​

​

Cysylltwch â ni

Unwaith y telir y blaendal, bydd eich lle wedi ei gadw. Byddwn yn anfon ffurflen ymgeisio ac opsiynau talu atoch.

Rydym mor gyffrous i rannu’r encil arbennig hwn gyda chi.

Brysiwch! Mae lleoedd yn fwriadol gyfyngedig i sicrhau dyfnder, agosatrwydd ac ansawdd eithriadol i bawb.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni.

Diolch yn fawr,
Helen & Jess

ox
 

​​
 

bottom of page